Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg


Lleoliad:

Fideo Gynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Iau, 19 Tachwedd 2020

Amser: 09.18 - 10.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6547


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Lynne Neagle AS (Cadeirydd)

Dawn Bowden AS

Hefin David AS

Suzy Davies AS

Tystion:

Becky Ricketts, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Joe Atkinson, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru

Jim Dickinson, WONKHE

Jamie Insole, Undeb Prifysgolion a Cholegau

Staff y Pwyllgor:

Tanwen Summers (Ail Glerc)

Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc)

Phil Boshier (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sian Gwenllian AS a Laura Jones AS, ac nid oedd dirprwyon.

 

</AI1>

<AI2>

2       Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar Addysg Uwch a lles staff a myfyrwyr gyda chynrychiolwyr o’r sector addysg uwch

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) a WONKHE.

2.2 Cytunodd UCM Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am y defnydd o'r cyllid ychwanegol a ddarparwyd i sefydliadau Cymru gan Lywodraeth Cymru ac effaith hwn.

2.3 Cytunodd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) i ddarparu gwybodaeth am lefelau recriwtio ar draws sefydliadau yng Nghymru, a dyfynnwyd ymchwil yn y dystiolaeth am yr effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar staff addysg uwch o bob rhyw.

 

</AI2>

<AI3>

3       Papurau i’w nodi

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI3>

<AI4>

</AI9>

<AI10>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI10>

<AI11>

5       Effaith Covid-19 ar Addysg Uwch a llesiant staff a myfyrwyr gyda chynrychiolwyr o’r sector addysg uwch – trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn flaenorol.

</AI11>

<AI12>

6       Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft.

6.1 Gohiriwyd yr eitem hon. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gyfarfod ychwanegol ddydd Llun 30 Tachwedd i ystyried yr adroddiad drafft ymhellach.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>